6 Pheth i Wneud i Ddathlu Ddydd Gwyl Dewi

Dydd Gwyl Dewi Hapus, Guys!

Tydi heddiw ddim just yn diwrnod i dathlu Dewi Sant yn ty ni…na…’de ni hefyd yn dathlu 20 mlynedd ers i ni symyd i fewn i Llys y Coed! Newidiadau o gwmpas y ty a mega newidiadau yn yr ardd, 3 o blant, 2 chinchilla, 2 axolotl, 1 ci a sawl goldfish o ffair Bala…a de ni dal yma!

Ond, nol at heddiw a Dydd Gwyl Dewi. Be ‘de chi’n neud i dathlu? Rwbeth? Dim byd? Sydd yn hollol fine hefyd…each to their own. Dyma list o syniadau a bach o be dwi am drio eu neud…

1 :: Dechre pob sgwrs yn Gymraeg! Y peth gynta i mi ddeud bore ma oedd “Oh Maisie, come on. Ti ddim isio boob rwan…”. Sut dwi’n dechre bob bore i fod yn onest. Ydi deud rwbeth pan dwi’n hanner cysgu yn cyfri? Os mae o, damio, dwi heb cal cychwyn da arni…dwi’n meddwl y peth gynta nes i ddeud o gwmpas 4yb oedd “Urgh! What you doing?! You gave me a fright then! No, she hasn’t woken up. Yes, she’s slept through. She’s fine…” Dwi mor lyfli yn ganol y nos…

2 :: Gwrando ar “Miwsig” aka Bwncath. Nhw di’r Go To ar y funud. Dreifio yn gweiddi yr “OooooOOOhhh”‘s i Allwedd…be gei di well?

3 :: Darganfod / dilyn cyfrifon newydd ar instagram am ychydig o ysbrydoliaeth Cymraeg ar gyfer diwrnodau allan, rhywle i aros ar benwythnos ayyb (@visitwales, @croesocymru, @discovercymru to name a few)

4 :: Buta Bwyd Cymreig…ond gammon de ni’n cal acw heno…ha! Nes i anghofio pob dim tra o ni’n paratoi pethe i de cyn gadael am gwaith bore ma…Nai rhoi Daffs ar y bwrdd neu rwbeth. Ma Mam yn siwr o galw hefo Welsh Cecs, sorry Pice ar y maen…

5 :: Darllen Llyfr Cymraeg…Blasus neu Llyfr Glas Nebo sy’n dod i’m meddwl yn gynta. Nes i rili mwynhau y ddau. A dwi ar fin cychwyn Prawf Mot, Bethan Gwanas…dwi just goro gorffen y llyfr dwi’n darllen ar y funud…a’r llall dwi di cychwyn…

6 :: Lansio Blog…eto! Ie…eto. Blog yn “y mother tongue” neu mix o’r ddau? Mwy am y lefydd i fynd, pethe i weld/neud o gwmpas fan hyn…mwy o’r un peth?! Who knows. Ond ma gennai’r urge ysfa i wneud RHYWBETH eleni. Ei gael yn ôl ar ei draed. Unrhyw syniadau?

“Gwnewch y pethau bychain mewn bywyd”.

Dewi Sant

Leave a comment

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.